SL(5)160 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2017

Cefndir a diben

Prif bwrpas y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 ("Rheoliadau 2016") er mwyn trosi Cyfarwyddeb UE 2015/2193 Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd, a wnaed ar 25 Tachwedd 2015, ynghylch cyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i’r aer o weithfeydd hylosgi canolig (“y Gyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig”), ac er mwyn cyflwyno rheolaethau ychwanegol mewn perthynas â gweithfeydd hylosgi sy'n cael eu defnyddio i gynhyrchu trydan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn cwmpas Rheoliadau 2016 i gynnwys gofynion trwyddedu ar gyfer gweithredu gweithfeydd a generaduron hylosgi canolig, a hynny er mwyn rheoli allyriadau at ddibenion diogelu ansawdd yr aer. 

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Materion technegol: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn, sef nad yw wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg (Rheol Sefydlog 21.2(ix)).

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy'n golygu bod y Rheoliadau hyn: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol; a (b) wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Roedd Gweinidogion Cymru o'r farn nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg.

Fodd bynnag, lle mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ddwyieithog, mae'r diwygiadau hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg (gweler rheoliad 19(2)(b) o'r Rheoliadau hyn). Mae hyn yn dangos y gall deddfwriaeth sy'n cynnwys testun Cymraeg gael ei gosod gerbron Senedd y DU (ac mae hyn yn digwydd yn achlysurol).

Craffu ar y rhinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Seiliwyd y dadansoddiad a ganlyn ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o'r Bil. Felly, bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig, a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru ar y diwrnod ymadael ac wedi hynny. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â'r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

O ran y Gyfarwyddeb Gweithfeydd Hylosgi Canolig, ni fydd y Gyfarwyddeb honno'n rhan o gyfraith ddomestig yn awtomatig ar y diwrnod ymadael ac wedi hynny o dan y Bil. Fodd bynnag, os yw llys neu dribiwnlys wedi cydnabod, cyn y diwrnod ymadael, fod cyfarwyddeb yr UE yn rhoi hawl i unigolyn y gall yr unigolyn ddibynnu arno a'i gorfodi yn y gyfraith, bydd yr hawl honno'n ffurfio rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny (gweler cymal 4 o'r Bil).

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

14 Rhagfyr 2017